Talent.com
The National Trust
Ranger (Welsh Essential) - BethesdaThe National Trust • Bangor, Gwynedd, United Kingdom
Search for other jobs
Ranger (Welsh Essential) - Bethesda

Ranger (Welsh Essential) - Bethesda

The National Trust • Bangor, Gwynedd, United Kingdom
1 day ago
Job description
  • Ranger (Welsh Essential) - Bethesda* *Summary* *Ceidwad* Rydym yn chwilio am geidwad i helpu i ofalu am dirwedd fynyddig eang y Carneddau a’r Glyderau, sy’n ymestyn dros 21,000 erw.
  • Yn y swydd hon, byddwch yn eiriolwr dros gadwraeth natur a’r awyr agored, gan chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod y dirwedd drawiadol hon yn aros mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol. *Cyflog : * 27,612 y flwyddyn *Hyd y Contract : *Parhaol *Patrwm Gweithio : * Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos.

    Wythnos waith arferol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4am, ond efallai y gofynnwn i chi weithio ar benwythnosau, gwyliau banc a gyda’r nos yn achlysurol. *The ability to communicate in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 4 in speaking and listening, and Level 2 in reading and writing.

    Please assess your level against the attached Welsh Language Competency Matrix. * *The English version of this advert is available in the attachments. * *What it's like to work here* O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o d m Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi’i leoli yn Nant Ffrancon ger Bethesda.

    Mae’r ardal y byddwch yn gweithio ynddi mor brydferth, ond gall y tywydd yn y mynyddoedd fod yn arw.

    Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn, felly rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, ac yn barod i addasu eich cynlluniau i gyd-fynd thywydd y diwrnod. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg, felly mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

    Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru.

    Rydym yn cydnabod bod taith iaith pawb yn wahanol, felly byddwn y eich cefnogi i barhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder ac i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’ch gwaith bob dydd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. *What you'll be doing* Fel Ceidwad, byddwch yn helpu i ddiogelu a gofalu am gynefinoedd, bywyd gwyllt, adeiladau a pheiriannau.

    Byddwch yn sicrhau bod y gwaith cadwraeth a’r profiadau awyr agored ar y tir sydd dan eich gofal o'r ansawdd uchaf. Byddwch yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni tasgau ymarferol i gynnal a chadw’r ystad ac adfer natur ar draws y Carneddau a’r Glyderau.

    O godi ffensys a waliau cerrig sych i osod / trwsio giatiau a chamfeydd, ac o weithredu a chynnal peiriannau fel tractorau a llif gadwyni i blannu coed, ni fydd dau ddiwrnod fel ei gilydd.

    Byddwch hefyd yn arolygu offer cefn gwlad, gan gynnwys pontydd, camfeydd a giatiau, gan helpu i nodi lle mae angen gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio. Yn achlysurol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr grwpiau addysgol a gwirfoddol i gyflawni amrywiaeth o dasgau cadwraeth, fel rheoli eithin a rhedyn neu blannu coed.

    Byddwch yn trosglwyddo eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i annog eraill i fwynhau’r ardal hon gymaint ag yr ydych chi, a phryd bynnag a lle bynnag y byddwch yn dod ar draws pobl, byddwch yn cymryd yr amser i sgwrsio nhw ac ateb eu cwestiynau, yn hytrach na rhuthro i ffwrdd at y dasg nesaf. Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm.

    Nid oes angen i chi feddu ar yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; rhoi darlun llawn o’r hyn sy’n bosibl yn y swydd hon y mae’r rhestr honno.

    • Who we're looking for* Byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu os ydych yn : * brofiadol yn gweithio yn yr awyr agored i reoli tir a mynediad, cefnogi cadwraeth, a diogelu a gwella tirweddau a chynefinoedd * profiadol yn gyrru tractorau ar dir amrywiol a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol * gallu defnyddio peirianwaith ac offer, gyda thystysgrifau perthnasol * hapus i siarad phob math o bobl am y gwaith rydych chi’n ei wneud a pham ei fod yn bwysig * gweithgar ac yn awyddus i ddysgu * gallu gweithio’n ddiogel, gan ddefnyddio asesiadau risg a dilyn canllawiau * gyrrwr gyda thrwydded yrru lawn y DU *The package* Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'.

    Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo.

    Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.

    Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. * Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol * Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) * Cynllun benthyciad blaendal rhent * Benthyciad tocyn tymor * Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y.

    aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema * Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas hyd y gwasanaeth, yn ogystal chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. * Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl * Rhaglen cynorthwyo cyflogai * Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.

    Create a job alert for this search

    Ranger (Welsh Essential) - Bethesda • Bangor, Gwynedd, United Kingdom