Talent.com
Careers Wales
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)Careers Wales • Newport, Wales, United Kingdom
Search for other jobs
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)

Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)

Careers Wales • Newport, Wales, United Kingdom
2 days ago
Job description

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.

Swyddi Gwag - Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant

Rol rhan amser (22.2 awr yr wythnos/3 diwrnod) yn Abertawe ac un amser llawn (37 awr) unai yn ardal Caerffil, Casnewydd neu Torfaen
  • Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262), pro-rata i swydd rhan amser.

  • Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993, pro-rata i swydd rhan amser.

  • Sgiliau Cymraeg: Delfrydol

Ydych chi'n rhywun sy'n gallu...

  • Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?

  • Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?

  • Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bawb. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr ym maes addysg, tra bod ein tîm Cymru’n Gweithio yn gweithio gyda chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Gyrfa Cymru yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru, ac mae ein cynghorwyr yn angerddol am helpu unigolion i wireddu eu potensial.

Ynglŷn â'r Rolau

Rhan amser, 3 diwrnod yr wythnos, Tîm Cymru’n Gweithio yn Abertawe

Byddwch yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i fentro i’r farchnad lafur neu i ail-ymuno â'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a darparu cymorth wedi'i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy'n ddi-waith (tymor byr neu hirdymor), yn economaidd anweithgar, yn profi rhwystrau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd, neu sy'n ceisio newid gyrfa. Ewch i'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a chymorth wedi'i deilwra.

Byddwch hefyd yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol fel darparwyr hyfforddiant, y Ganolfan Byd Gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau eraill i helpu cwsmeriaid i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth gynaliadwy.

Mae cynghorwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau, gan gynnwys cymorth un-i-un, sesiynau cyflogadwyedd grŵp a chyflwyniadau gan ddefnyddio technolegau digidol.

Yn benodol, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad mewn:

  • Sefydliadau addysg neu hyfforddiant

  • Cymorth iechyd, gofal cymdeithasol neu anabledd

  • Cefnogi oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur

  • Gweithio gyda chymunedau ethnig leiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid

  • Gweithio mewn lleoliad carchar.

Llawn Amser, Ardal Caerffili, Casnewydd neu Torfaen, Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc

Mae'r rolau hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda'r rhai sydd wedi'u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda'n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Rhaid i gynghorwyr/rhai o dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, y DU.

  • Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfaoedd feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd a Datblygiad (neu gyfwerth) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.

  • Rhaid i Gynghorwyr Gyrfaoedd dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gyfwerth) a byddant yn cwblhau'r Diploma Lefel 6 fel rhan o'r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn angenrheidiol.

  • Mae angen gwiriad DBS manwl.

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Cynghorydd Gyrfa Swydd Ddisgrifiadau

Dyddiad Cau: 08/11/2026 (hanner nôs).

Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fynychu Canolfan Asesu: ar 24, 25 neu 26 Tachwedd 2026 (trwy Microsoft Teams).

Cyfweliadau: Rhwng 30/11/2026 a 09/12/2026 (trwy Microsoft Teams).

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Create a job alert for this search

Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26) • Newport, Wales, United Kingdom