Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
Swydd ar safle Ystalyfera yw hon.
Graddfa Cyflog: L7-11
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi arweinydd profiadol, gweledigaethol ac ymrwymedig i arwain darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws ein hysgol 3-18. Mae hon yn swydd allweddol o fewn yr ysgol a bydd y person a benodir yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth, yr her a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo a ffynnu.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gynhwysiant, yn meddu ar wybodaeth ac arbenigedd cryf ym maes ADY, ac sydd â'r gallu i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac ymarferol ar draws pob cam addysgol. Bydd y rôl yn gofyn am weledigaeth glir, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i adeiladu perthnasoedd cryf gyda disgyblion, teuluoedd, staff a phartneriaid allanol.
Bydd yr unigolyn a benodir yn ymarferydd rhagorol ac yn arweinydd effeithiol, gyda'r gallu i gefnogi a datblygu arferion cynhwysol ar draws yr ysgol gyfan. Bydd gan yr unigolyn yr hyder a'r gallu i arwain newid, datblygu darpariaeth ac eirioli dros anghenion pob dysgwr.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol bob oed Gymraeg lwyddiannus sy'n rhoi lles, cynhwysiant a chyfleoedd teg wrth galon ei gwaith. Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei adnabod fel unigolyn ac yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i wireddu ei botensial.
Mae'r ddarpariaeth ADY yn gryfder amlwg o fewn yr ysgol. Mae'r Gilfach yn ganolbwynt i ddarpariaeth ADY yr ysgol, gan gydlynu cymorth, ymyraethau a chyfleoedd dysgu arbenigol i sicrhau bod disgyblion yn cael y gefnogaeth briodol ar yr adeg gywir, gan hyrwyddo cynnydd, lles a chynhwysiant ar draws yr ysgol gyfan. Mae'r adran wedi sefydlu enw da am ei gofal, ei harbenigedd a'i gallu i sicrhau deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Mae partneriaethau cryf gyda rhieni a gofalwyr wrth wraidd gwaith yr adran. Credwn yn gryf mai cydweithio agos rhwng yr ysgol, y cartref a'r dysgwr ei hun yw'r ffordd orau o sicrhau llwyddiant. Bydd y CADY newydd yn adeiladu ar y perthnasoedd arbennig hyn ac yn sicrhau bod llais y plentyn a'r teulu yn ganolog i bob penderfyniad.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous yn natblygiad yr ysgol. Ym mis Medi 2027 bydd Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yn agor, gan ddarparu cyfle unigryw i ddatblygu a siapio darpariaeth arbenigol o'r safon uchaf. Bydd y CADY yn chwarae rhan arweiniol yn natblygiad strategol yr uned newydd ac yn sicrhau ei bod yn integreiddio'n llawn o fewn gweledigaeth gynhwysol yr ysgol.
Bydd y deiliad swydd yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau'r awdurdod lleol a nifer eang o asiantaethau allanol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg arbenigol, gwasanaethau seicoleg addysg a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd y gallu i feithrin partneriaethau effeithiol a chydlynu cymorth amlasiantaethol yn elfen allweddol o'r swydd.
Fel aelod pwysig o'r tîm arwain, bydd y CADY yn cyfrannu'n weithredol at gyfeiriad strategol yr ysgol ac yn sicrhau bod cynhwysiant, tegwch a lles yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Dyma gyfle eithriadol i unigolyn gweithgar ac uchelgeisiol arwain maes sydd wrth galon cenhadaeth yr ysgol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Croesewir ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth.
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad Cau: Dydd Llun 16eg Tachwedd am 9.00yb
Dyddiad Dechrau: Medi 2027
Safeguarding Statement
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.