Talent.com
Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur
Athro Mathemateg Bro DurYsgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur • Ystalyfera, Neath Port Talbot
Search for other jobs
Athro Mathemateg Bro Dur

Athro Mathemateg Bro Dur

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur • Ystalyfera, Neath Port Talbot
5 days ago
Job description

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Swydd Athro/awes Mathemateg

Swydd ar safle Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yw hon.

Contract blwyddyn i gychwyn. Er ystyrir contract parhaol i ymgeisydd addas.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein tîm addysgu ymroddedig yn ehangu, gyda chyfleoedd newydd cyffrous ar gael i ymuno â’n cymuned ysgol fywiog. Yn sgîl hyn, mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes ymroddgar i swydd i addysgu Mathemateg ym Mro Dur o fis Medi 2027 ymlaen.

Mae’r adran Fathemateg wedi’i sefydlu yn hynod lwyddiannus yn yr ysgol newydd hon gyda chwricwlwm cyffrous, blaengar. Byddwch yn ymuno ag adran glos a chefnogol sydd yn frwdfrydig dros ddatblygu meddwl mathemategol a sgiliau rhif ein disgyblion Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol.

Mae campws Ysgol Gymraeg Bro Dur yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egniol, sy’n gweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfleoedd allgyrsiol am y cyfnod hynod lwyddianus Amser Aur bob prynhawn Gwener.

Yn anad dim, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu deinamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae cyfleoedd allweddol ar gael i ddatblygu eich gyrfa a chefnogi eich twf a’ch datblygiad proffesiynol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, Tachwedd 2il 2026

Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2027

Safeguarding Statement

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.

Create a job alert for this search

Athro Mathemateg Bro Dur • Ystalyfera, Neath Port Talbot