Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Llysgenhadon mewn Marchnata a Chysylltiadau Allanol. Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn gweithio mewn digwyddiadau recriwtio fel Diwrnodau Agored, diwrnodau blasu, a ffeiriau UCAS ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
- Bod yn aelod gweithredol a hyblyg o’r tîm recriwtio/digwyddiadau/ehangu mynediad, yn annibynnol neu gyda myfyrwyr eraill ac aelodau o’r staff.
- Tywys grwpiau o ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni ar deithiau o gwmpas y naill gampws neu’r llall. Bydd yr ymwelwyr yn cael gweld ac yn cael gwybodaeth am yr adeiladau, y cyfleusterau dysgu/ TGCh, Undeb y Myfyrwyr a’r cyfleusterau chwaraeon.
- Cynorthwyo gyda Diwrnodau Agored/Diwrnodau Ymweld ag Ysgolion/gweithdai rhyngweithiol gyda chyfranogwyr/digwyddiadau fel yr wythnos groeso/ Rhaglenni Ymestyn yn Ehangach/Ysgol Haf.
- Sicrhau gwybodaeth drylwyr o’r brifysgol a’rgwasanaethau/cyfleusterau sydd ar gael i’r myfyrwyr.
- Mynd i gyfarfodydd hyfforddi/datblygu staff a fydd yn briodol, yn ôl y gofyn.
- Cynrychioli Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn ffeiriau Addysg Uwch ar draws y DU.
Beth ddewch chi i’r rôl
Fel myfyriwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd presennol, byddwch yn gweithredu fel model rôl cadarnhaol a chyfrifol, gan ddangos gwybodaeth dda am gyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr, a llwybrau dilyniant addysg fewn y maes addysg uwchradd ac uwch.
Byddwch yn weithiwr brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Mae bod yn Llysgennad Myfyrwyr yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, arweinyddiaeth, a gwaith tîm yn ogystal â chyfarfod a gweithio gyda myfyrwyr a staff eraill ar draws y brifysgol. Mae hwn yn gyfle dros dro sy'n cynnig oriau hyblyg, ad hoc - yn ddelfrydol ar gyfer ennill profiad â thâl sy'n cyd-fynd â'ch astudiaethau.
Dyddiad Cau
30 Sep 2026
Ysgol/Uned
Cyfleodd i Fyfyrwyr
Cyflog: £25,949 £13.45 yr awr ynghyd â 14% o wyliau blynyddol
£13.45 yr awr ynghyd â 14% o wyliau blynyddol
#J-18808-Ljbffr