Talent.com
Cardiff Metropolitan University
Llysgennad Myfyrwyr – Bywyd Preswyl (2526569-1)Cardiff Metropolitan University • Cardiff, WLS, GB
Search for other jobs
Llysgennad Myfyrwyr – Bywyd Preswyl (2526569-1)

Llysgennad Myfyrwyr – Bywyd Preswyl (2526569-1)

Cardiff Metropolitan University • Cardiff, WLS, GB
1 day ago
Job description

Os oes gennych angerdd dros greu cymuned croesawgar a chynhwysol i fyfyrwyr, mae gennym gyfle gwych i chi ddod yn Llysgennad Myfyrwyr 'Bywyd Preswyl’ i gefnogi gyda’r gwaith o drefnu gweithgareddau a digwyddiadau yn ein neuaddau preswyl.

Gan weithio ochr yn ochr â’r Cydlynydd Pontio Myfyrwyr a chyd-lysgenhadon, byddwch yn helpu i gynllunio, hyrwyddo a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol i wella profiad y myfyrwyr yn y neuaddau preswyl. Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ym mywyd prifysgol, meithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltu â chymuned y brifysgol.

Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi gweithgareddau’r 'Wythnos Groeso' a hwyluso digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau drwy gydol y flwyddyn academaidd.

  • Hyrwyddo digwyddiadau Bywyd Preswyl yn y neuaddau preswyl drwy bosteri, cyfryngau cymdeithasol ac ati.
  • Cydweithio â’r Llysgenhadon Bywyd Preswyl eraill a’r Cydlynydd Pontio Myfyrwyr, gan gyfarfod yn rheolaidd i drefnu a chynllunio digwyddiadau.
  • Helpu myfyrwyr i ymgartrefu yn y neuaddau preswyl a gwneud ffrindiau.
  • Helpu i gasglu adborth drwy godau QR a holiaduron fel rhan o'r digwyddiadau.
  • Byddwch yn rhagweithiol wrth ymgynghori â myfyrwyr yn eich neuaddau preswyl ynghylch syniadau ar gyfer digwyddiadau, ac wrth ddefnyddio eu mewnbwn i benderfynu ar ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Beth ...

Fel myfyriwr presennol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sydd wedi byw, yn byw ar hyn o bryd, neu sydd yn mynd i fyw yn neuaddau preswyl Cyncoed neu Plas Gwyn, byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfathrebu cryf, eich hyder a'ch empathi i helpu i greu digwyddiadau deniadol ac amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr a gwesteion. Byddwch yn dod ag agwedd gadarnhaol a hygyrch ynghyd â sgiliau trefnu cryf, gan eich galluogi i gydlynu gweithgareddau'n effeithiol, addasu i anghenion sy'n newid ac ymateb i heriau gyda thawelwch a phroffesiynoldeb.

Yn Ogystal, Byddwch Chi’n

  • Deall y cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â threfnu a chydlynu digwyddiadau.
  • Gallu trefnu digwyddiadau ac annog pobl i gymryd rhan ynddynt yn effeithiol.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da.
  • Hyderus ac yn dangos gallu wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel offeryn marchnata.

Pam dod yn Llysgennad Myfyrwyr?

Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau arwain, cyfathrebu a rheoli digwyddiadau, wrth wneud cyfraniad cadarnhaol at brofiad y myfyrwyr a'r gymuned breswyl ym Met Caerdydd. Mae hon yn gyfle achlysurol sy'n cynnig oriau hyblyg ac achlysurol - yn ddelfrydol ar gyfer ennill profiad â thâl sy'n cyd-fynd â'ch astudiaethau.

Dyddiad Cau: 30 Sep 2026

Ysgol/Uned: Cyfleodd i Fyfyrwyr

Cyflog: £13.45 yr awr ynghyd â 14% o dâl gwyliau

£13.45 yr awr ynghyd â 14% o dâl gwyliau

#J-18808-Ljbffr

Create a job alert for this search

Llysgennad Myfyrwyr – Bywyd Preswyl (2526569-1) • Cardiff, WLS, GB