Mae Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â’r Tîm Rheoli Gweithredol. Mae hwn yn gyfle eithriadol i ymuno â’n coleg ar adeg o gyfleoedd gwych. Ers yr uno, mae’r Grŵp wedi mynd o nerth i nerth, ac rydym nawr yn edrych ymlaen at weld ein penodiad newydd yn ein helpu i barhau â’n taith ragorol.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol byddwch yn aelod o’r Tîm Rheoli Gweithredol ac yn arweinydd strategol ar Wasanaethau Corfforaethol ar draws y Grŵp, gan gyfrannu at broses cynllunio strategol y Grŵp. Byddwch yn arwain swyddogaethau’r Gwasanaethau Corfforaethol ac yn sicrhau eu bod yn rhedeg yn effeithlon, a bod prosesau a gweithdrefnau safonol yn cael eu cyflwyno ar draws y Grŵp er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Strategol y Coleg. Byddwch hefyd yn aelod dylanwadol o holl grwpiau rhwydwaith Colegau Cymru a Collab, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi fod ag agwedd gydweithredol, hyblyg a brwdfrydig at eich gwaith. Rydym yn chwilio’n benodol am rywun sydd â chymhwyster Cyfrifydd Siartredig priodol ac sy’n gallu dangos y gallu i gynllunio’n strategol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio rhagorol a’r gallu i reoli newid yn llwyddiannus, yn ogystal â’r gallu i wneud penderfyniadau clir mewn amgylchedd o bwysau uchel.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 28 Chwefror 2022 a bydd y broses gyfweld ac asesu yn cael ei chynnal ar 14 Mawrth 2022.
Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn sgil uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae’n cyflogi tua 2,000 o staff ac yn cyflwyno cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Gyda chyfanswm incwm o dros £66 miliwn, dyma Sefydliad Addysg Bellach mwyaf Cymru ac un o’r grwpiau mwyaf o golegau yn y DU.
Nod y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy roi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl leol i sicrhau llwyddiant y rhanbarth a’i bod yn gystadleuol. Mae amrywiaeth eang o gyrsiau’r Grŵp, profiadau dysgu o ansawdd uchel, cyfleusterau o’r radd flaenaf a staff talentog sydd i gyd yn cyfrannu at wireddu’r nodau hyn.
Mae cyfleoedd ychwanegol i astudio’n lleol am raddau a chymwysterau proffesiynol yn galluogi mwy o bobl ifanc a myfyrwyr hŷn i wireddu eu potensial. Mae’r Ganolfan Brifysgol ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos yn cynnig cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r rôl hon, cysylltwch ag Ian Sackree (07795 271559) neu Dan Bacon (07934 062726)
Os ydych eisiau gwneud cais am y swydd hon, yna :
Cwblhewch y ffurflen gais a’i hanfon ar e-bost at gyda “Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol” fel pennawd yr e-bost. Dylech hefyd gwblhau’r ffurflen cyfle cyfartal amgaeedig ac amgáu CV. Yn eich cais, eglurwch eich cymhelliant dros wneud cais a’r wybodaeth a’r profiad y gallwch eu cyfrannu at y rôl ac, yn benodol, eich gallu i fodloni’r meini prawf a nodir ym manyleb y person (Sylwer – ddim mwy na 3 ochr A4, ffont 11, Arial).
Bydd Protocol yn cydnabod bod y cais wedi’i dderbyn drwy e-bostio pob ymgeisydd o fewn 24 awr. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, yna ffoniwch Ian Sackree ar 07795 271559.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi tystiolaeth o’ch profiad a’ch gwybodaeth, gan ddangos sut mae hyn yn cyd-fynd â’r meini prawf a nodir ym manyleb y person.
Rhowch enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt dau ganolwr, a dylai un ohonynt fod yn gyflogwr presennol neu’r cyflogwr mwyaf diweddar. Disgwyliwn dderbyn geirda ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer oni bai eich bod yn dweud yn wahanol wrthym.
Amserlen Recriwtio :
Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais5pm Dydd Llun 28 Chwefror 2022 Canolfan AsesuI’w gadarnhau
Overview
Coleg : Grwp Llandrillo Menai
Lleoliad : Gogledd Cymru
Cyflog : c£120k a lwfans car a pensiwn hael
Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais : 28 / 02 / 2022
Canolfan Asesu : 14 / 03 / 2022
Benefits
Payday breakfastCharity work supportHealth care plansBirthday day offFridge FridaysCasual dress codeCycle to work schemeFlexible holiday allowance – buy more / sellDiscounted gym membershipsUncapped earning potential for Recruitment ConsultantsSpec Savers vouchersPlus incentives, social events, and competitions – we love to work hard, but play hard too!, Interested in becoming a Recruitment Consultant? We’re hiring! – No experience needed, all training is provided. – Competitive salaries with uncapped commission. – Excellent benefits and team culture. Email your CV to [email protected] or visit our website linked in the bio to find out more!, Wanting to get into Recruitment?Let’s face it, no one working in recruitment ever really grew up wanting to be a recruitment consultant. Most of us got into it by chance. The reason many people decide to get into recruitment and stay in the industry is the lifestyle and rewards available to the go-getters. Usually, you know someone who got into recruitment and seems to be loving life, earning money, and climbing the ladder.Don’t worry too much about not having Recruitment experience, if you really want it and have the right attitude our expert managers will train you up from scratch and give you everything you need to be a massive success in the industry!,